Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Cyngor Gofal Cymru– CIS 3

 

 

Ymateb i alwad am dystiolaeth ar y Fframwaith Buddsoddi ar y Cyd: trafodaeth gan y Pwyllgor Menter a Sgiliau: Mehefin 2015

 

 

Cyngor Gofal Cymru

Mae Cyngor Gofal Cymru (y Cyngor Gofal) yn un o Gyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae gan y Cyngor Gofal rôl arweiniol hefyd o ran sicrhau bod y gweithlu sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gweithio i safon uchel. Mae hyn yn cynnwys datblygu gweithlu hyderus a chymwys ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal plant, sy’n gallu gweithio’n effeithiol, gwneud penderfyniadau deallus yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf, er lles y bobl sy’n derbyn cymorth ganddynt. Mae llwyddiant gwaith y Cyngor Gofal yn dibynnu ar bartneriaethau a chyfraniadau gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol. Dyna pam mae aelodau bwrdd y Cyngor Gofal, sy’n llywodraethu gwaith y sefydliad, yn cynrychioli lawer o leisiau. Ymhlith y rhai maent yn cynrychioli eu safbwyntiau mae’r cyhoedd, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr, gweithwyr, undebau llafur a chyflogwyr. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl grwpiau hyn yn cael llais wrth bennu safonau a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gweler mwy drwy glicio ar y ddolen hon.

 

Mae’r Cyngor Gofal yn ymgymryd â rôl y Cyngor Sgiliau Sector drwy Sgiliau Gofal a Datblygu yng Nghymru ac yn gyfrifol am y gweithluoedd gofal cymdeithasol oedolion a phlant a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae’r Cyngor Gofal yn gweithio fel Cyngor Sgiliau Sector mewn partneriaeth â Skills for Care yn Lloegr, Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban. – Gweler mwy drwy glicio ar y  ddolen hon.

 

Cylch Gorchwyl

 

I ba raddau y bydd y polisi buddsoddi ar y cyd yn cynorthwyo i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru yn datblygu mantais gystadleuol o ran creu gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

 

Mae’r Cyngor Gofal yn credu y bydd y polisi hwn o fuddsoddi ar y cyd yn gwneud llawer i gyflawni’r amcan o greu gweithlu cynhyrchiol a medrus, yn yr hirdymor ac i bobl ifanc sy’n ymuno â’r gweithlu ehangach ledled Cymru.

 

Mae’r Cyngor Gofal yn cefnogi’n gryf yr egwyddor yn y Fframwaith Buddsoddi ar y Cyd o rannu cyfrifoldeb rhwng y llywodraeth a chyflogwyr i fuddsoddi mewn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer y gweithlu. Yn wir, mae’r Cyngor Gofal wedi cynnwys y disgwyliad hwn yn ein strategaeth cymwysterau a dysgu ar gyfer y sector: Proffesiynoli’r Gweithlu ers 2012, lle mae datblygu diwylliant dysgu, yn cynnwys yr angen i gyflogwyr fuddsoddi yn sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau eu staff, yn darparu’r cyd-destun ar gyfer y ddogfen. Caiff hyn ei bwysleisio ymhellach fel disgwyliad yn Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol: Canllawiau Ymarfer ar gyfer Rheolwyr sydd wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru[1]. Ym marn y Cyngor Gofal mae buddsoddiad mewn sgiliau gan reolwyr a chyflogwyr nid yn unig yn tanlinellu pwysigrwydd a gwerth hyfforddiant i unigolion a chyflogwyr, ond hefyd mae’n atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng hyfforddiant a datblygiad wedi’i dargedu o safon uchel i gyflawni nodau ac amcanion polisi’r sefydliad a’r sector cyhoeddus ar gyfer gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant[2].  Yn fwyaf diweddar, cafodd hyn ei bwysleisio ymhellach yn ein Pecyn Cymorth i Gyflogwyr i gefnogi ein hagenda gwella ansawdd gan annog Ymarfer Da ar gyfer Dysgu ac Asesu ymysg gweithlu’r sector.

 

Mae’r Cyngor Gofal yn deall ac yn cefnogi’r angen hefyd i ganolbwyntio’r cyllid cyhoeddus sy’n gostwng a gaiff ei ddyrannu i ddatblygu sgiliau, ac yn cydnabod bod economi gynaliadwy a ffyniannus yn bwysig er mwyn i gwmnïau Cymru allu sicrhau mantais gystadleuol yn y dyfodol. Mae’r Cyngor Gofal hefyd yn cymeradwyo’r angen i sicrhau gostyngiad pellach yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant er lles dyfodol Cymru. 

 

Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn ein sector yn awgrymu bod y fframwaith buddsoddi ar y cyd fel mae wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd, yn llai tebygol o barhau i gefnogi’r gwelliannau sylweddol diweddar i lefelau cymwysterau, gwybodaeth a sgiliau staff sy’n gweithio, neu sy’n ymuno â’r sectorau gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar yng Nghymru[3]. Yn y gorffennol, mae’r Cyngor Gofal wedi darparu llawer o dystiolaeth i’r llywodraeth ar effeithiau’r polisi hwn ar y gweithlu yn ein sector. Mae hyn oherwydd demograffeg y gweithlu (gweithwyr hŷn yn bennaf ar ddibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus ar gyfer pob gwasanaeth yn y sector[4]. Mae’r cynnydd sylweddol gofynnol yn lefel buddsoddiad cyflogwyr yn arbennig o heriol mewn cyfnod o galedi i’r sector cyhoeddus. Amgaeir yr ymateb manwl a gyflwynwyd gennym i’r ymgynghoriad ar y Polisi Sgiliau ym  mis Ebrill 2014, sy’n rhoi mwy o fanylion am hyn, ac mae’r materion yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol i gyflogwyr yn ein sector.

 

Amcangyfrifwyd bod trosiant staff y sector gofal cymdeithasol (gwasanaethau a gomisiynwyd yn benodol) bron yn 21%[5] yn 2013-14. O’r rhain, roedd 49% wedi gadael y sector yn gyfan gwbl a 51% wedi newid swydd neu gyflogwr[6]. Mae’r trosiant hwn yn golygu bod angen llawer o fuddsoddiad gan gyflogwyr i gynnal lefelau cymwysterau yn y sector. Mae’r ffigurau newydd hyn yn dangos hefyd bod twf parhaus yn y sector, ac amcangyfrifir bod twf o 5% yn ystod yr un cyfnod[7]. Disgwylir i hyn, ynghyd â’r anawsterau i recriwtio a chadw pobl iau (o dan 24 oed) yn y gweithlu[8], gael effaith heriol anghymesur ar y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac mae’n annhebyg o gyflawni bwriadau’r polisi yn y sector hwn.

 

A fydd cyflogwyr yn arfer yr egwyddor o fuddsoddi ar y cyd? A yw’n debygol y bydd lefelau hyfforddiant yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i hyn?

 

Mae’r Cyngor Gofal yn credu bod llawer o gyflogwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar eisoes yn arfer yr egwyddor o fuddsoddi ar y cyd yn effeithiol, drwy brynu hyfforddiant, darparu cyllid i astudio ar gyfer cymwysterau gofynnol neu rai a argymhellir ac addysg a dysgu proffesiynol parhaus i’w staff. Maent yn rhyddhau staff i gwblhau cymwysterau ac yn darparu cyfleoedd dysgu, hyfforddiant ac asesu sylweddol i ddysgwyr y tu allan i’w gweithlu eu hunain sy’n ymgymryd â chymwysterau sy’n cynnig ‘trwydded i ymarfer’ drwy ddatblygu a phrofi cymhwysedd mewn lleoliadau gwaith go iawn i ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Maent yn cyfrannu at brofiadau dysgu i gynlluniau Hyfforddeiaeth a Pont at Waith ledled Cymru. Mae llawer wedi datblygu eu statws darparwr dysgu[9] a’u gweithlu eu hunain i sicrhau bod cynnwys ac ansawdd y dysgu yn bodloni eu gofynion, yn cyfrannu nid yn unig at yr economi wybodaeth ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ond at wella’r gweithlu addysgol a’r canlyniadau hefyd.

 

Fodd bynnag, mae yna lawer o gyflogwyr yn y sector gofal cymdeithasol a sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant wedi cefnogi prentisiaethau a rhaglenni prentisiaeth i’w staff ennill y cymwysterau gofynnol neu argymelledig ar gyfer eu swydd neu i gynnig cyfleoedd datblygu i’w staff. Er bod y ddibyniaeth hon ar arian cyhoeddus wedi galluogi rhai cyflogwyr i osgoi buddsoddi yn eu staff yn uniongyrchol, mae wedi sicrhau twf sylweddol yn nifer y prentisiaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi cyfrannu at dwf yn niferoedd staff, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol, sy’n meddu ar y cymwysterau gofynnol neu argymelledig ar gyfer eu swyddi[10]. Yn anad dim pwysig, mae hyn wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau. Dylai’r cysyniad o fuddsoddi ar y cyd sbarduno’r broses o adfer cydbwysedd i sicrhau newid diwylliannol, ond bydd sut y gwneir hynny yn y sector yn symud y baich buddsoddi i gyflogwyr yn syth ar gyfer tua 76% o’u staff[11].

Bydd y Cyngor Gofal yn gwneud popeth o fewn ei allu i annog cyflogwyr i barhau i ddefnyddio prentisiaethau i recriwtio staff iau a’u helpu i ddatblygu eu busnes gan gymryd rhan weithgar yn y broses o fuddsoddi ar y cyd. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu nad oes gan y sector hanes llwyddiannus iawn o recriwtio a chadw pobl ifanc. Dim ond 2.1% o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n 16-24 oed gyda’r amrediad oedran mwyaf poblogaidd yn 54-64 oed (24.6%)[12].

Gall Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP) gan Lywodraeth Cymru[13] ddarparu rhai awgrymiadau arfer da, ond mae’n dangos hefyd pam mae buddsoddi ar y cyd ym maes gofal cymdeithasol wedi parhau i fod yn her gydol 12 mlynedd y rhaglen. Cynigir y grant yn flynyddol i awdurdodau lleol i gefnogi gweithgareddau hyfforddi ledled y sector gan gydnabod anghenion hyfforddi a datblygu sylweddol y sector. Mae grant y Rhaglen Ddatblygu wedi’i fwriadu fel ychwanegiad sylweddol i’r adnoddau a ddarperir gan gyflogwyr. Fodd bynnag, mae’n ofyniad ar gyfer y grant hwn hyd yn oed bod cyflogwyr y sector preifat a’r trydydd sector yn gallu manteisio ar yr hyfforddiant a ddarperir drwy’r grant am ddim,i gydnabod yr heriau sy’n eu hwynebu wrth geisio ariannu hyfforddiant. Daw cyfraniadau’r cyflogwyr gan awdurdodau lleol ac nid gan gyflogwyr y sector preifat a’r trydydd sector gan na fu trefniadau buddsoddi ar y cyd yn llwyddiannus yn y gorffennol. 

Hyd yn oed gyda’r lefel hon o fuddsoddiad mae tua 6,000 o brentisiaethau’n parhau i gael eu cynnig bob blwyddyn yn ein sector mewn ymgais i gynnal y targedau hyfforddi a bennwyd gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a’r uchelgais i broffesiynoli’r gweithlu drwy gynyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau. O’r rhain, dim ond 24%[14] a fyddai’n gymwys am gyllid o dan y cynllun a gynigir yn y ddogfen fframwaith buddsoddi ar y cyd.

 

Pa effaith (os o gwbl) y bydd rhagor o fuddsoddiad ariannol gan gyflogwyr yn ei chael ar ansawdd cyrsiau hyfforddi a pha mor berthnasol ydynt i’r farchnad lafur?

 

Nid oes amheuaeth bod cynnwys cyflogwyr yn y gwaith o ddatblygu a darparu cymwysterau sy’n diwallu anghenion eu gweithwyr yn cael effaith gadarnhaol ar berthnasedd ac ansawdd hyfforddiant a chymwysterau ac ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl agored i niwed yng Nghymru. Mae gan ein sector hanes hir a llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ac o gydweithio â sefydliadau dyfarnu a darparwyr dysgu i ddarparu hyfforddiant perthnasol sy’n diwallu anghenion cyflogwyr ac rydym yn parhau i gydweithio i wella a sicrhau ansawdd.

 

Os yw’r sector am barhau a chyflymu’r gwaith o gyflwyno’r gwelliannau i wasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n ofynnol gan bolisi’r llywodraeth, ac i broffesiynoli’r gweithlu, mae’n bwysig bod darparwyr gwasanaethau’n dod yn ‘sefydliadau sy’n dysgu’. Mae sefydliad sy’n dysgu yn golygu mwy na darparu, cael gafael ar neu brynu ‘mwy o hyfforddiant’, mae’n golygu cymryd addysg, cymwysterau a dysgu o ddifrif ar lefel unigolion, timau a’r sefydliad yn ei gyfanrwydd. Mae’n cydnabod a hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn croesawu newid. Efallai y pwysleisir hyn fwyaf drwy ei gwneud hi’n ofynnol i gyflogwyr fuddsoddi’n fwy amlwg mewn hyfforddiant i’w staff[15].

 

A ddylai unrhyw hyfforddiant ychwanegol fod wedi’i eithrio o fuddsoddi ar y cyd, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd?

 

Heb os, byddai’r Cyngor Gofal yn cefnogi mwy o gyllid hyblyg i fusnesau newydd yn bendant.

Byddai’r Cyngor Gofal yn awgrymu y dylai cyflogwyr sy’n dangos cynnydd sylweddol yn nifer eu staff dderbyn cymorth ychwanegol i uwchsgilio staff newydd, neu staff sy’n ymgymryd â rolau newydd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru gyda chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, deddf sy’n trawsnewid ac yn cyflwyno newidiadau sylweddol i’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu ac i wybodaeth a sgiliau staff.

O ystyried pa mor anodd yw cael gafael ar hyfforddiant ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a’u darparu byddem yn croesawu adolygiad sy’n darparu rhywfaint o gymorth i gyflogwyr a darparwyr dysgu sy’n cynnig y gwasanaeth hanfodol hwn. Byddai hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mwy na Geiriau, ac yn gwella ansawdd gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg.

A oes dulliau eraill o rannu costau hyfforddiant, er enghraifft ardoll hyfforddi?

 

Roedd y Polisi Sgiliau a’r Cynllun Gweithredu a gyhoeddwyd yn 2014 yn awgrymu y byddai rhywfaint o gyfraniad (hyd at 50%) ar gael gan y llywodraeth i gynorthwyo cyflogwyr gyda dysgwyr dros 24 oed. Gellid ystyried hyn yn ardoll hyfforddi a fyddai’n cael ei gefnogi gan y sector. Cafodd y posibilrwydd hwn ei ddileu gan y fframwaith buddsoddi ar y cyd terfynol ac fe’i disodlwyd gan drefniant ariannu ‘pileri’ lle mae dim ond prentisiaethau uwch a Sgiliau Hanfodol sy’n gymwys am gyllid i bobl 24 oed a hŷn. Byddai’r Cyngor Gofal yn awgrymu y dylid parhau i adolygu oedran prentisiaid er mwyn sicrhau bod niferoedd ac ansawdd prentisiaethau yn y sector yng Nghymru yn cael eu cynnal.

Mae’r Cyngor Gofal wedi cefnogi datblygiad Sgiliau Hanfodol yn y gweithle erioed ac yn parhau i wneud hynny, ac yn croesawu’r ffaith eu bod wedi’u cynnwys yn y fframwaith. Tra bod cynnwys prentisiaethau uwch mewn buddsoddi ar y cyd yn bwysig iawn i’n sector byddant ond ar gael i tua 10% o’r gweithlu[16], ac mae gan y gyfran honno o’r gweithlu hyfforddiant a chymwysterau eisoes.

Nododd canlyniadau diweddar yr Ymgynghoriad ar Ddiwygio Cyllid Prentisiaethau[17] yn Lloegr (yn dilyn Adolygiad Richards) ei bod hi’n bwysig gwahaniaethu rhwng cyfraniadau busnesau bach a microfusnesau tuag at brentisiaethau. Mae’r gwahaniaeth yn arwyddocaol i’n sector ni gan fod 78% o gyflogwyr sy’n cael eu comisiynu gan Awdurdodau Lleol yn cyflogi llai na 50 o bobl a 93% yn cyflogi llai na 100[18]. Byddai’r Cyngor Gofal yn cefnogi cyflwyno system debyg i’r hyn sydd yn Lloegr, sy’n ystyried maint cyflogwr fel rhan o strwythur prisio i gael cymorth ar gyfer cyllid.

Os yw cyflogwyr llai yn mynd i fabwysiadu trefniadau buddsoddi ar y cyd, mae rhyw fesur o fuddsoddi ar y cyd yn y cymwysterau sydd eu hangen neu sy’n ofynnol ymhlith eu swydd, yn debygol o sicrhau canlyniadau gwell o ran lefelau sgiliau a chymwysterau'r gweithlu (lefelau 2 a 3), na’r opsiwn cyfredol o ariannu pileru dysgu. Gellid ystyried hyn fel math o ardoll hyfforddi, lle mae’r costau’n cael eu rhannu rhwng cyflogwyr a’r llywodraeth.

Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddodd y British Association for Early Education adroddiad [19] oedd yn dangos bod 77% o feithrinfeydd yn poeni am eu dyfodol, tra bod y cwmni o gyfrifwyr, Wilkins Kennedy, wedi gweld cynnydd o 12% mewn ansolfedd ar gyfer cartrefi gofal cymdeithasol tra bod y gyfradd ansolfedd yn 5% yn unig ym mhob sector arall, ym mis Mai 2013. Yn 2011-12[20] darparwyd 11.9 miliwn awr o ofal yng Nghymru gan y sector annibynnol a’r sector statudol. Darparwyd 70% o ofal cartref wedi’i ariannu gan y wladwriaeth dan gontract gan y sector annibynnol, gyda’r sector yn darparu 8.3 miliwn o oriau o ofal cartref wedi’i ariannu ag arian cyhoeddus yn 2011-12. Yn achos sectorau fel gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy’n dibynnu llawer ar arian cyhoeddus a hyd yn oed o fewn rhannau sector preifat/annibynnol a thrydydd sector y sector, byddem yn croesawu cyfleoedd ar gyfer buddsoddi ar y cyd yn seiliedig ar anghenion cyflogwyr, cymwysterau dysgwyr a maint y cyflogwr.

 

 

 

 



[1] http://www.cgcymru.org.uk/canllawiau-ymarfer-i-reolwyr/?force=2&bc=4143:4144|/

[2] Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru – Fframwaith Gweithredu

[3] Social Care Index 2013-14: Figures for Wales. Comensura. Llundain  2014

[4] Mae 19% o wasanaethau a gomisiynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn wasanaethau gan sefydliadau’r 3ydd sector gyda 81% gan y sector annibynnol/preifat. Adroddiad Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cyngor Gofal Cymru (yn disgwyl cael ei gyhoeddi) Mai 2015

[5] Adroddiad Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cyngor Gofal Cymru (yn disgwyl cael ei gyhoeddi) Mai 2015

[6] ibid

[7] ibid

[8] Dim ond 2.1% o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n 16-24 oed, yr amrediad oedran mwyaf poblogaidd yw 54-64 oed (24.6%)[8], mae 5.6% o’r gweithlu dros 65 oed. Ibid

[9] Er enghraifft, Cam wrth Gam sy’n cynnig cymwysterau addysg a dysgu Cymraeg i’r gweithlu blynyddoedd cynnar (a gweithlu’r dyfodol) yng Nghymru, Smartcare sy’n darparu staff penodol ac arbenigol i’r sector gofal cymdeithasol ac asesiadau i’r sector drwy gontract gyda Coleg Cambria, Rhondda Cynon Taf sy’n cynnig eu canolfan dysgu ac asesu eu hunain ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio yn y Cyngor. Mae llawer mwy o enghreifftiau i’w cael.

[10] Yn 2012-13, nid oedd 42.7% o staff yng Nghymru yn bodloni gofynion cymwysterau eu swydd. Roedd y ffigur hwn yn 34.1% yn 2013-14[10]; sy’n is na chyfartaledd y DU o 37.4%. Social Care Index 2013-14: Figures for Wales. Comensura. Llundain  2014

[11] Roedd ffigurau prentisiaethau ar gyfer 2013-14 yn dangos bod 76% o’r rhai â’u cwblhaodd dros 24 oed. Cronfa ddata ar-lein Ardystio Prentisiaethau Mai 2015

[12] Social Care Index 2013-14: Figures for Wales. Comensura. Llundain 2014

[13] http://llyw.cymru/docs/dhss/publications/130529socialcarecirccy.pdf

[14] Cafwyd y ffigurau o gronfa ddata ar-lein Ardystio Prentisiaethau (fframweithiau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar) Mai 2015.

[15] Future pressures on Wales Public Services: Financial, demand and other cost pressures to 2025 and a review of potential response. Mark Jeffs. Gwasnaethau Cyhoeddus Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd

 

[16] Ffigurau o gronfa ddata ar-lein Ardystio Prentisiaethau (fframweithiau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar) Mai 2015.

[17] https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/302235/bis-14-597-future-of-apprenticeships-in-england-funding-reform-technical-consultatation.pdf

[18] Adroddiad Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cyngor Gofal Cymru (yn disgwyl cael ei gyhoeddi) Mai 2015

[19] Maintained Nursery Schools: a hidden asset. Mawrth 2014

[20] Y ffigurau diweddaraf sydd ar gael o Adroddiad Trosolwg UKHCA ar Ofal Cartref yn y DU Mawrth 2013, cymerwyd gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011. Datganiad Cyntaf – Assessments and Social Services for Adults 2011-12. tudalen 6. Cyhoeddwyd Medi 2012.

http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120904sdr1462012en.pdf